Ysgrifau
Owens, Rosalind Julia
(née Frossell)
26 Mai 2018
Hunodd yn dawel yng nghwmni ei theulu yn Ysbyty Eryri, Caernarfon yn 75 mlwydd oed.
Gwraig a ffrind gorau i Geraint. Mam arbennig i Siân, Bethan, Jeff, Steve a’r diweddar Dafydd. Chwaer annwyl i Wendy a’r diweddar David. Nain ffyddlon a chariadus i Llinos, Dewi, Caio a Meilir.
Gwasanaeth cyhoeddus yn Amlosgfa Bangor, Dydd Llun, Mehefin 4ydd 2018 am 2:15 y pnawn. Blodau y teulu yn unig ond derbynnir rhoddion yn ddiolchgar tuag at Ward Alaw, Ysbyty Gwynedd a Ward Padarn Ysbyty Eryri, Caernarfon
Sinnett, Timothy John
19 Mai 2018
Of Ynys Goch, Llaneilian, passed away unexpectedly on the 19th May 2018 in Penysarn, aged 39 years.
Beloved son of Shelagh and Dave. Loving brother of Andrew and Claire and Emma and Siôn. Step son of Jane and step brother of Gwyn and Iwan. Fond uncle of Jessica, Madison and Ollie. Dear grandson of Joan. Tim will be sorely missed by all of his family and wide circle of friends.
Public service and committal at Bangor Crematorium Friday 1st June 2018 at 2:15pm. No flowers by request but donations kindly accepted in memory of Tim towards the local Paramedics.
Williams, Arthur Wyn
13 Mai 2018
Hunodd yn dawel yn Ysbyty Gwynedd, Bangor, o Stad Y Glorian, yn 72 mlwydd oed.
Gŵr annwyl Val Williams. Tad cariadus i David, Hywel, Anna a Paula. Taid balch i Amy, Luis, Jade, Zac a Ben. Mi fydd yn golled enfawr i’w deulu a’i ffrindiau oll.
Gwasanaeth cyhoeddus yn Eglwys Sant Eleth, Amlwch, Dydd Llun, Mai 21ain 2018 am 11:30y.b. ac yna i ddilyn rhoddir i orffwys ym mynwent Amlwch am 12:15y.p. Blodau y teulu yn unig ond derbynnir rhoddion yn ddiolchgar er côf am Arthur tuag at Awyr Lâs.
Jones, Morfydd
03 Mai 2018
Hunodd yn dawel yng nghwmni ei theulu yn ei chartref Rallt Goch, Llanrhuddlad, gynt o Nant-Y-Gôf, Cemaes yn 68 mlwydd oed.
Gwraig annwyl y diweddar Owen John. Mam a mam yng nghyfraith cariadus i Gaynor a John, Manon a Rich, Anwen a John a Rhian a Stephen. Nain balch i Tanya, Catrin, Nathan, Rebecca, Sioned, Owen a Barry. Merch ffyddlon i’r diweddar Jack Moss Ellis ag Elsie Ann Ellis, Cae Cropa, Trefor. Chwaer annwyl i'w chwiorydd a'i brodyr. Mi fydd yn golled enfawr i’w theulu a’i ffrindiau oll.
Gwasanaeth cyhoeddus yng Nghapel Bethesda, Cemaes, Dydd Sadwrn, Mai 12fed 2018 am 11 y bore ac yna i ddilyn rhoddir i orffwys ym mynwent Y Rhyd. Blodau y teulu yn unig ond derbynnir rhoddion yn ddiolchgar er côf am Morfydd tuag at Cymdeithas MS Gogledd Cymru.