Beth Ddylech Chi ei Ddisgwyl

Pan atebwn eich galwad, gan ddibynnu ar yr amgylchiadau, fe ymdrechwn i ymweld â chi cyn gynted â phosib. Yn ystod ein cyfarfod cyntaf byddwn yn cymryd holl fanylion yr ymadawedig a chael gwybod ai Claddiad ynteu Amlosgiad oedd ei d(dd)ymuniad olaf, ac a oes crwner ynghlwm. Wedi hyn byddwn yn eich cynghori yn briodol ac yn eich tywys gam wrth gam trwy’r trefniadau.

Yr unig ddarn o’r trefniadau na fedrwn, fel Trefnwyr Angladdau, ei gwblhau i chi neu ar eich rhan yw cofrestru’r farwolaeth. Rhaid i hyn gael ei wneud gan aelod o’r teulu, neu rhywun a oedd yn bresennol pan fu farw’r person. I roi cymorth i chi gofrestru rydym wedi argraffu oriau agor a chyfeiriadau’r Cofrestryddion yn Ynys Môn a Gwynedd.

Wrth wneud y trefniadau byddwn yn gofyn llawer o gwestiynau i chi, rhai y teimlwch eu bod yn ymddangos yn bersonol neu yn breifat, ond maent yn berthnasol iawn ac o gymorth wrth i ni gael darlun llawn o’ch anghenion. Yn sicr, byddwn yn ystyriol iawn o’ch teimladau.

Mae gennym nifer o ddyletswyddau gan gynnwys y trefniadau i gyd, cysylltu â’r sefydliadau perthnasol, gweinidogion, Mynwentydd ac Amlosgfeydd.

Cymryd gofal dros eich anwylyd yw rhan bwysicaf ein gwaith. Mae hyn yn cynnwys symud y corff i’r capel Gorffwys, lle yr awn ati i osod popeth allan a rhoi’r unigolyn yn yr arch.

Gan ddibynnu ar y dymuniadau olaf gall yr ymadawedig aros yn ein capel neu gallwn drefnu i ddychwelyd yr ymadawedig adref. Byddwn wedyn yn cadarnhau a threfnu ymhle y byddwn yn cyfarfod ar ddiwrnod yr angladd, a fyddwn yn gadael o’n capel ni, cartref yr ymadawedig, neu gyfarfod yn y capel neu’r eglwys?

Pan fyddwn yn cyrraedd y gwasanaeth byddwn yn ymgynnull y teulu ynghyd â’r cludwyr i fynd i mewn i’r gwasanaeth. Mae’r gwasanaeth yn nwylo’r Gweinidog yn llwyr a phrin iawn yw ein gwaith ni yn ystod y gwasanaeth. Ar ddiwedd y gwasanaeth fe ddown ymlaen a gofyn i’r cludwyr osod eu hunain wrth yr arch a’i symud allan o’r Capel neu Eglwys. Gofynnwn i deulu agos a ffrindiau gerdded allan y tu ôl i’r arch ar yr adeg hon.

Yn awr rydym yn gadael ar gyfer y claddiad neu’r amlosgiad fel a drefnwyd.