John Hughes a’i Fab & R & J Hughes a'i fab cyf, Trefnwyr Angladdau

Gobeithiwn y bydd y wybodaeth ar y wefan hon o ddefnydd i chi wrth i chi drefnu angladd un annwyl. Yn John Hughes a’i fab a R & J Hughes a’i fab rydym yma i’ch cynorthwyo 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos.

Dsc 8010
IMG 0122

Datganiad o Fwriad

Ein cred yw bod pob angladd cyn bwysiced â'i gilydd. Mae pob colled yn anodd ac rydym yn gallu uniaethu â'ch profiad a'ch cefnogi. Rydym yn deall fod eich colled a'ch galar yn unigryw ac yn gallu cydnabod yr angen i'r angladd sydd yn rhaid i chi ei drefnu fod unigryw hefyd.

Ymdrechwn i ymdrin â’ch cyfarwyddiadau ynghyd â dymuniadau olaf yr un annwyl a gollwyd mewn modd proffesiynol, gofalgar a pharchus yn unol ag enw da’r cwmni, gan sicrhau fod yr angladd yn cael ei redeg yn feddylgar ac effeithlon.