Cynllun Angladd Golden Charter

Mae cynllun angladd yn ffordd rwydd o fynd ati ymlaen llaw i drefnu’r angladd yr ydych chi’n dymuno ei gael. Mae cynllun yn eich caniatáu i nodi’ch dymuniadau a thalu am wasanaethau’r ymgymerwyr angladdau sydd wedi’u cynnwys yn eich cynllun. Rydym yn clywed yn aml gan ein cwsmeriaid y gall hyn roi tawelwch meddwl i chi a’ch teulu. Mae cynllun gan Golden Charter hefyd yn cynnwys lwfans tuag at gostau trydydd parti, fel gwasanaethau hanfodol na chânt eu darparu gan ymgymerwyr angladdau, megis ffioedd amlosgi neu gladdu, a ffi’r gweinidog neu’r gweinyddwr am gynnal y gwasanaeth.


Yma yn R & J Hughes a’i Fab Cyf, gweithiwn mewn partneriaeth â Golden Charter i ddarparu ffordd ymlaen ddiogel a dibynadwy i chi. Fel un o ddarparwyr cynlluniau angladdau mwyaf y DU*, mae Golden Charter wedi cynorthwyo 900,000 o bobl i drefnu eu hangladd**, felly rydym yn gwbl hyderus wrth gynnig eu cynlluniau i chi.


Mae gofynion pawb yn wahanol wrth drefnu angladd, felly byddwn yn sicrhau bod y cynlluniau yr ydym yn eu cynnig mor hyblyg â phosibl. Pan fyddwch yn cysylltu, gallwn drafod eich gofynion o ran angladd, ac addasu cynllun ar eich cyfer chi. Mae cynllun gan Golden Charter ar gael i holl breswylwyr y Deyrnas Unedig sydd dros 18 oed, waeth beth fo’u hoedran neu gyflwr eu hiechyd.


Hoffech chi gael rhagor o wybodaeth ynghylch sut allai cynllun angladd Golden Charter weithio i chi? Gallwn rannu gyda chi yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch i wneud penderfyniad gwybodus ar eich cyfer chi a’ch teulu.

*Yn seiliedig ar ddadansoddiad Goledn Charter ac ymchwil annibynnol o maint y farchnad cynllun angladd ym mis Ionawr 2023

**Yn gywir fis Mawrth 2023

Mae R a J Hughes a’i Fab Cyf yn gynrychiolydd penodedig Golden Charter Limited, sy’n masnachu fel Golden Charter Funeral Plans, ac wedi’i awdurdodi a’i reoleiddio gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FRN:965279). Cofrestredig yn Lloegr, rhif 02511598, Swyddfa Gofrestredig: One Fleet Place, London EC4M 7WS.

Siarter Aur