Rhoddion

Darllenwch islaw

Mae gennym brofiad eang o reoli'r rhoddion a roddir i'n cleientiaid er cof am eu hanwyliaid ac rydym yn dilyn gweithdrefnau llym wrth gofnodi, rheoli a dosbarthu rhoddion o'r fath.

Mi fydd y Gweinidog / Swyddog yn cyhoeddi enw'r elusen enwebedig ar gyfer y rhoddion yn ogystal â lleoliad y blwch rhoddion. Sylwer, os y derbynnir rhodd yn y blwch, bydd yn cael ei nodi fel arian parod heb unrhyw enw yn gysylltiedig â’r swm. Pe dymunech roi rhodd personol; rhowch yr arian parod mewn amlen wedi ei farcio’n glir gan nodi'ch enw a rhif cyswllt. Byddwn hefyd yn ychwanegu unrhyw roddion a dderbynnir drwy’r post neu drosglwyddiad BACS. Mi fydd cardiau cydymdeimlad a dderbynwyd yn cael eu hagor a bydd unrhyw rodd yn cael ei dynnu allan gyda'r enw / enwau cysylltiedig yn cael eu nodi. Mi fydd y cardiau yn cael eu gyrru ymlaen i’r teuluoedd cyn gynted â phosib. Gallwch yrru unrhyw roddion a gawsoch yn bersonol i ni pe baech yn dymuno iddo gael ei gynnwys yng nghyfrifyddu terfynol y rhoddion. Bydd y cyfrif rhoddion ar gyfer yr ymadawedig wedyn yn aros ar agor am gyfnod o fis.

Ar ddiwedd y mis, bydd y cyfrif yn cael ei gau, mi fydd arian / sieciau yn cael eu bancio a bydd y datganiad o roddion yn cael ei roi i chi. Yna, gallwch chi ein hethol fel eich cynrychiolwyr i ddosbarthu'r rhoddion yn unol â'r cyfarwyddiadau a dderbyniwyd, neu gallwn anfon y cyfanswm atoch er mwyn i chi gael eu gyrru ymlaen i’r elusen.

Sylwer:

Mae'r holl rhoddion a gasglwyd gan y ddau gwmni yn cael eu rhoi mewn ‘Cyfrif Rhoddion’ arwahan.

Cam 1 - Dewiswch Gangen - Cliciwch Rhodd

Cam 2 - Llenwch y ffurflen ar lein - Cliciwch Gyrru

Cam 3 - Rhoddir manylion y cyfrif banc rhoddion - Mewngofnodwch i'ch bancio ar lein a defnyddiwch y manylion a roddwyd i wneud eich rhodd (sicrhewch fod y swm a nodir ar y ffurflen ar lein yn cyfateb i'r swm a roddwyd gennych ar eich bancio ar-lein, defnyddiwch enw'r ymadawedig fel eich cyfeirnod talu.)

Llangefni - R & J Hughes and Son ltd

Noder: Cofiwch nodi enw'r ymadawedig fel cyfeirnod wrth wneud taliad.

Pe bae gennych unrhyw ymholiadau cysylltwch â Elaine Hughes ar fore Iau neu fore Gwener (9:00-12:00) drwy e-bostio donations@jhsrjh.co.uk neu ffonio 07787527900

Diolch yn fawr.