Tel/Fax: 01407 830461

Mobile: 07768 860961

Cofrestru Marwolaeth

Pa bryd ac ymhle i gofrestru marwolaeth

Yng Nghymru a Lloegr, mae’n ofynnol i chi fel rheol i gofrestru marwolaeth o fewn pum diwrnod. Mae’n well mynd i’r swyddfa gofrestru yn yr ardal lle y bu i’r ymadawedig farw, neu fel arall gall gymryd yn hirach cael y dogfennau sydd eu hangen arnoch a gall hyn oedi’r angladd.

Cymerir tua hanner awr i gofrestru marwolaeth. Gallech orfod gwneud apwyntiad ymlaen llaw. Cewch hyd i fanylion cyswllt y swyddfa gofrestru yn y llyfr ffôn lleol neu gallwch chwilio ar-lein isod.

Pwy all gofrestru marwolaeth

Os bu’r farw’r ymadawedig mewn tŷ neu ysbyty, gall y canlynol gofrestru’r farwolaeth:

  • perthynas
  • rhywun a oedd yn bresennol pan fu’r ymadawedig farw
  • rhywun sy’n byw yn y tŷ
  • swyddog o’r ysbyty
  • y person sy’n gwneud y trefniadau gyda’r trefnwwyr angladdau

Gellir cofrestru marwolaethau a ddigwyddodd yn unrhyw le arall gan:

  • berthynas
  • rhywun a oedd yn bresennol pan fu’r ymadawedig farw
  • y person ddaeth o hyd i’r corff
  • berson yn gyfrifol am y corff
  • y person sy’n gwneud y trefniadau gyda’r trefnwyr angladdau

Cofrestrir y rhan fwyaf o farwolaethau gan berthynas. Fel arfer byddai’r cofrestrydd ddim ond yn caniatáu rhywun arall os nad oes perthynasau ar gael.

Genedigaeth farw

Fel arfer rhaid cofrestru genedigaeth farw o fewn 42 diwrnod, ac ar yr hwyraf o fewn tri mis. Fel rheol gellir gwneud hyn yn yr ysbyty neu yn y swyddfa gofrestru leol.

Dogfennau a gwybodaeth fydd eu hangen arnoch

Dogfennau

Pan fyddwch yn cofrestru marwolaeth, bydd angen i chi fynd â’r canlynol efo chi:

  • Tystysgrif feddygol yn nodi beth achosodd y farwolaeth (wedi ei harwyddo gan ddoctor)

Ac, os ar gael:

  • tystysgrif geni
  • tystysgrif priodas neu bartneriaeth sifil
  • cerdyn meddygol GIG (NHS)

Gwybodaeth

Bydd angen i chi ddweud y canlynol wrth y cofrestrydd:

  • enw llawn yr ymadawedig pan fu farw
  • unrhyw enwau blaenorol a ddefnyddiwyd, gan gynnwys cyfenw cyn priodi
  • dyddiad geni a man geni’r ymadawedig (tref a gwlad os cawsant eu geni yn y DU a gwlad os cawsant eu geni dramor)
  • eu cyfeiriad olaf
  • eu swyddogaeth
  • enw llawn, dyddiad geni a swyddogaeth priod neu bartner sifil sydd yn goroesi
  • a oeddent yn cael pensiwn y wladwriaeth neu unrhyw fudd-dal wladwriaeth arall

Dogfennau a chymorth a gewch

Os na chynhelir post mortem, bydd y cofrestrydd yn rhoi’r canlynol i chi:

  • tystysgrif ar gyfer claddu neu amlosgi (sef y ‘ffurflen werdd’) yn rhoi caniatâd i’r corff gael ei gladdu neu wneud cais i’r corff gael ei amlosgi
  • tystysgrif cofrestru marwolaeth (ffurflen BD8), a gyhoeddir am resymau nawdd cymdeithasol os oedd yr ymadawedig yn cael pensiwn y wladwriaeth neu fudd-daliadau (darllenwch y wybodaeth ar y cefn, cwblhewch a’i dychwelyd os yw’n berthnasol)

Byddwch yn medru prynu un neu fwy o dystysgrifau marwolaeth ar yr adeg hon (mae’r pris yn amrywio o un awdurdod lleol i’r llall). Bydd angen yr rhain gan yr ysgutor pan fyddant yn ymdrin â materion yr ymadawedig.

Bydd y cofrestrydd yn rhoi llyfryn i chi hefyd o’r enw ‘Beth i’w wneud wedi marwolaeth’, gyda chyngor ar ewyllysiau, angladdau a chymorth ariannol. Gallwch lawrlwytho copi isod.

Gallech orfod dweud wrth nifer o adrannau ac asiantaethau gwahanol am y farwolaeth. Gall y cofrestrydd roi cyngor i chi ynglŷn â sut i wneud hyn. Mae rhai awdurdodau lleol wedi cychwyn cynnig gwasanaeth newydd i roi cymorth i chi gofrestru marwolaeth, a bydd y cofrestrydd yn gwybod a yw hwn ar gael yn eich ardal chi.

Os bydd angen post mortem, bydd y crwner yn cyhoeddi unrhyw ddogfennau fydd eu hangen arnoch cyn gynted â phosib wedyn.

Os oes camgymeriad mewn cofnod marwolaeth, gellir newid neu ychwanegu manylion. Yn ddelfrydol dylai’r person a gofrestrodd y farwolaeth drefnu hyn gyda’r swyddfa ble cofrestrwyd y farwolaeth. Gallech orfod dangos tystiolaeth i ddangos fod camgymeriad wedi ei wneud.