Ysgrifau
Williams, Arthur Wyn
13 Mai 2018
Hunodd yn dawel yn Ysbyty Gwynedd, Bangor, o Stad Y Glorian, yn 72 mlwydd oed.
Gŵr annwyl Val Williams. Tad cariadus i David, Hywel, Anna a Paula. Taid balch i Amy, Luis, Jade, Zac a Ben. Mi fydd yn golled enfawr i’w deulu a’i ffrindiau oll.
Gwasanaeth cyhoeddus yn Eglwys Sant Eleth, Amlwch, Dydd Llun, Mai 21ain 2018 am 11:30y.b. ac yna i ddilyn rhoddir i orffwys ym mynwent Amlwch am 12:15y.p. Blodau y teulu yn unig ond derbynnir rhoddion yn ddiolchgar er côf am Arthur tuag at Awyr Lâs.
Jones, Morfydd
03 Mai 2018
Hunodd yn dawel yng nghwmni ei theulu yn ei chartref Rallt Goch, Llanrhuddlad, gynt o Nant-Y-Gôf, Cemaes yn 68 mlwydd oed.
Gwraig annwyl y diweddar Owen John. Mam a mam yng nghyfraith cariadus i Gaynor a John, Manon a Rich, Anwen a John a Rhian a Stephen. Nain balch i Tanya, Catrin, Nathan, Rebecca, Sioned, Owen a Barry. Merch ffyddlon i’r diweddar Jack Moss Ellis ag Elsie Ann Ellis, Cae Cropa, Trefor. Chwaer annwyl i'w chwiorydd a'i brodyr. Mi fydd yn golled enfawr i’w theulu a’i ffrindiau oll.
Gwasanaeth cyhoeddus yng Nghapel Bethesda, Cemaes, Dydd Sadwrn, Mai 12fed 2018 am 11 y bore ac yna i ddilyn rhoddir i orffwys ym mynwent Y Rhyd. Blodau y teulu yn unig ond derbynnir rhoddion yn ddiolchgar er côf am Morfydd tuag at Cymdeithas MS Gogledd Cymru.