Diwrnod yr Angladd

Claddu

I’r teulu, mae diwrnod yr angladd yn un o bryder, galar a nifer o deimladau ac emosiynau eraill. Yn John Hughes rydym yn deall hyn ac rydym yma i roi cymorth i chi ar y diwrnod.

Mae’n arferol i ni ymuno â chi a’ch teulu mewn adeilad neu leoliad arbennig, i adael mewn Gorymdaith Angladd i’r Man Addoli lle cynhelir y gwasanaeth.

Bydd y gwasanaeth crefyddol yn para tua 35 i 40 munud, oni bai eich bod wedi ychwanegu araith angladdol, cerddoriaeth neu weddïau. Pan ddaw’r amser i adael, bydd y Trefnwr Angladdau yn cerdded tuag at yr arch ac yn gofyn i’r cludwyr sefyll wrth yr arch (4 neu 6 cludwr yn arferol). Byddant wedyn yn arwain yr arch allan o’r adeilad a bydd y Trefnwr Angladdau yn tywys y teulu y tu ôl i hyn. Codir yr arch i mewn i’r hers a thywysir y teulu tuag at eu ceir.

Byddwn wedyn yn mynd i’r Fynwent, a p’un ai ymhell neu yn agos o ran milltiroedd, byddwn yn ymdrechu i gadw pawb gyda’i gilydd mewn gorymdaith urddasol a threfnus. Teithiwn ar gyflymdra 0 10-15mya mewn tref a 40-45mya mewn mannau eraill. Ceir rhagor o fanylion am yr orymdaith yn y paragraffau Gorymdaith.

Pan gyrhaeddwn y Fynwent, gofynnwn i’r cludwyr ddod ymlaen ac i ddefnyddio troli neu elor os yn bosibl. Wedyn gofynnir i’r teulu ddilyn yr arch at ymyl y bedd. Gosodir yr arch ar y bedd, caiff y cludwyr gyfarwyddyd i godi’r rhaffau ac yna disgwyliwn hyd nes i’r gweinidog roi cyfarwyddyd i ostwng yr arch. Bydd y gweinidog yn perfformio’r gwasanaeth claddu priodol. Yn y rhan fwyaf o wasanaethau mae’n arferiad taflu pridd ar yr arch. Os yw hyn yn rhan o’r gwasanaeth claddu, yna mae’n arferol i’r Trefnwr Angladdau wneud hyn ond gallwn ganiatáu aelod o’r teulu i berfformio’r ddefod hon pe bai hynny'n ddymuniad. Fel arfer bydd gwasanaeth y bedd yn para tua 15-20 munud. Mae’n arferol hefyd i aelodau o’r teulu a ffrindiau daflu pridd, blodau ac eitemau ar yr arch wrth iddynt gofio’r ymadawedig.

Dyma ddiwedd yr Angladd a chyfrifoldeb y Trefnwr Angladdau. Os ydych wedi trefnu lluniaeth cewch adael fel y mynnwch.

Nodwch os gwelwch yn dda: canllaw yn unig yw’r datganiad uchod ynglŷn â’r modd yr ydym ni yn John Hughes yn cynnal Angladdau, os ydych yn ansicr neu angen rhagor o wybodaeth, mae croeso i chi gysylltu â Ieuan, Phyllis neu fi, Arwel, yn y swyddfa.

Amlosgi

I’r teulu, mae diwrnod yr angladd yn un o bryder, galar a nifer o deimladau ac emosiynau eraill. Yn John Hughes rydym yn deall hyn ac rydym yma i roi cymorth i chi ar y diwrnod.

Mae’n arferol i ni ymuno â chi a’ch teulu mewn adeilad neu leoliad arbennig, i adael mewn Gorymdaith Angladd i’r Man Addoli lle cynhelir y gwasanaeth.

Bydd y gwasanaeth crefyddol yn para tua 35 i 40 munud, oni bai eich bod wedi ychwanegu araith angladdol, cerddoriaeth neu weddïau. Pan ddaw’r amser i adael, bydd y Trefnwr Angladdau yn cerdded tuag at yr arch ac yn gofyn i’r cludwyr sefyll wrth yr arch (4 neu 6 cludwr yn arferol). Byddant wedyn yn arwain yr arch allan o’r adeilad a bydd y Trefnwr Angladdau yn tywys y teulu y tu ôl i hyn. Codir yr arch i mewn i’r hers a thywysir y teulu tuag at eu ceir.

Bydd y daith i'r Amlosgfa ym Mangor neu Fae Colwyn yn cymryd oddeutu awr. Rydym yn gadael tua 20 munud i'w sbario rhag ofn i amgylchiadau annisgwyl godi. Byddwn yn ymdrechu i gadw pawb gyda'i gilydd mewn gorymdaith urddasol a threfnus. Rydym yn teithio tua 10-15mya mewn tref a'r cyflymder uchaf mewn mannau eraill fydd 40-45mya. Mae mwy o fanylion ynghylch yr orymdaith i'w gweld yn y paragraffau ynghylch yr orymdaith ar y wefan hon.

Pan gyrhaeddwn yr Amlosgfa, gofynnwn i'r cludwyr ddod ymlaen, codi'r arch o'r hers a'i lleoli ar droli neu Bier, yna gofynnir i'r teulu ddilyn yr arch i mewn i Gapel yr Amlosgfa, lle gosodir yr arch yn nhu blaen y Capel ac yna gofynnir i'r cludwyr ailymuno â'r teulu. Tywysir pawb i'w sedd ac mae'r gweinidog yn dechrau'r y gwasanaeth. Rydym ni, y Trefnwyr Angladdau, yn aros yng nghefn y Capel ac yn trefnu, gyda'r Staff Amlosgfa, i unrhyw gerddoriaeth y gofynnwyd amdani chwarae. Yn amlosgfa Bangor, maent yn caniatáu inni gael 30 munud ar gyfer y gwasanaeth. Ar ddiwedd y gwasanaeth bydd y Trefnydd Angladdau yn symud blodau i'r ffenestri coffa ac yn tywys y teulu allan. Gallwch, pe baech yn dymuno, dreulio eiliad wrth yr arch cyn gadael. Mae'r blodau'n cael eu gadael yn yr amlosgfa am 48 awr ac yna'n cael eu taflu. Efallai y byddai'n well gennych fynd â nhw gyda chi.

Noder: Yn Amlosgfa Bangor mae'r arch, gyda chaniatâd y teulu, yn cael ei gostwng ychydig o dan linell y golwg, fel rhan o'r gwasanaeth traddodi crefyddol. Gallwch ofyn am beidio â gostwng yr arch gan fod hyn yn peri pryder i rai pobl. Dylai eich gweinidog grybwyll a chadarnhau hyn gyda chi. Er nad ein cyfrifoldeb ni ydyw, gallwn hysbysu'r gweinidog o'ch dymuniadau.

Dyma ddiwedd cylch gwaith yr Angladd a Threfnydd yr Angladd. Os ydych chi wedi trefnu te angladd, cewch adael pan fyddwch chi'n barod.

Sylwer: mae'r datganiad uchod yn ganllaw cyffredinol ar sut rydym yn cynnal gwasanaethau Amlosgfa. Os ydych chi'n aneglur neu angen unrhyw wybodaeth bellach, peidiwch ag oedi cyn ffonio Arwel, Phyllis neu Helen yn y swyddfa.