Tel: 01407 830461
Mobile: 07768 860959

Tel: 01248 723497
Mobile: 07542 679661

Rhoddion

Darllenwch islaw

Mae gennym brofiad eang o reoli'r rhoddion a roddir i'n cleientiaid er cof am eu hanwyliaid ac rydym yn dilyn gweithdrefnau llym wrth gofnodi, rheoli a dosbarthu rhoddion o'r fath.

Mi fydd y Gweinidog / Swyddog yn cyhoeddi enw'r elusen enwebedig ar gyfer y rhoddion yn ogystal â lleoliad y blwch rhoddion. Sylwer, os y derbynnir rhodd yn y blwch, bydd yn cael ei nodi fel arian parod heb unrhyw enw yn gysylltiedig â’r swm. Pe dymunech roi rhodd personol; rhowch yr arian parod mewn amlen wedi ei farcio’n glir gan nodi'ch enw a rhif cyswllt. Byddwn hefyd yn ychwanegu unrhyw roddion a dderbynnir drwy’r post neu drosglwyddiad BACS. Mi fydd cardiau cydymdeimlad a dderbynwyd yn cael eu hagor a bydd unrhyw rodd yn cael ei dynnu allan gyda'r enw / enwau cysylltiedig yn cael eu nodi. Mi fydd y cardiau yn cael eu gyrru ymlaen i’r teuluoedd cyn gynted â phosib. Gallwch yrru unrhyw roddion a gawsoch yn bersonol i ni pe baech yn dymuno iddo gael ei gynnwys yng nghyfrifyddu terfynol y rhoddion. Bydd y cyfrif rhoddion ar gyfer yr ymadawedig wedyn yn aros ar agor am gyfnod o fis.

Ar ddiwedd y mis, bydd y cyfrif yn cael ei gau, mi fydd arian / sieciau yn cael eu bancio a bydd y datganiad o roddion yn cael ei roi i chi. Yna, gallwch chi ein hethol fel eich cynrychiolwyr i ddosbarthu'r rhoddion yn unol â'r cyfarwyddiadau a dderbyniwyd, neu gallwn anfon y cyfanswm atoch er mwyn i chi gael eu gyrru ymlaen i’r elusen.

Sylwer: Mae'r holl roddion a gesglir gan y cwmni yn cael eu rhoi mewn ‘Cyfrif Rhoddion’ (taladwy i John Hughes a’i Fab Cyfrif Roddion)


AMLWCH

Taladwy i: John Hughes & Son a'i Fab Donations Acc

Cod Didoli: 20-35-47

Rhif y Cyfrif: 83067793


NEU


LLANGEFNI

Taladwy i: R A Hughes a'i Fab Cyf.

Cod Didoli: 20-35-47

Rhif y Cyfrif: 03460185


Noder: Cofiwch nodi enw'r ymadawedig fel cyfeirnod wrth wneud taliad.

Pe bae gennych unrhyw ymholiadau cysylltwch â Elaine Hughes ar fore Iau neu fore Gwener (9:00-12:00) drwy e-bostio donations@johnhughesandson.co.uk / donations@rahughes@son.cymru neu ffonio 07787527900

Diolch yn fawr.