Hanes

John Hughes a’i Fab, Amlwch

Yn y 1900au cynnar, gweithiodd John Hughes fel prentis i Griffith Pritchard (Emporium) cyn ymgymryd â’r busnes ei hun flynyddoedd yn ddiweddarach. Ymunodd ei fab, a alwyd hefyd yn John, ag ef yn y busnes, a dyna sefydlu John Hughes a'i Fab. Gweithiodd y ddau yn galed a sefydlu busnes ag enw da fel busnes proffesiynol, gofalgar, yn meddu ar yr agwedd arbennig honno a geir mewn busnes teuluol, ac mae’r enw da hwnnw yn parhau hyd heddiw. Ymddeolodd John Hughes (Hŷn) ym 1967.

Gweithiodd John yn ddiflino i gynnal y gwaith yr oedd ei dad wedi'i ddechrau a gwasanaethodd y gymuned, nid yn unig drwy'r busnes ond drwy nifer o rolau cyhoeddus ac elusennol hefyd. Yn raddol, ymunodd teulu John â’r busnes – ei wraig, Phyllis, a’i feibion, Arwel ac Ieuan – a gymerodd yr awenau pan drawyd ef yn wael ei iechyd. Yn drist iawn, bu farw John yn 2003.

R. Hughes a’i Fab, Llangefni

Sefydlwyd ym 1970 gan Robin Hughes, wedi gyrfa lwyddiannus a hir fel Saer Maen. Bu Robin yn brentis i Thomas Owen Williams, Saer Meini Coffa yn Stryd Salem, Amlwch. Ar ôl cwblhau ei brentisiaeth, cymerodd Robin awenau busnes gwaith cerrig beddi yn Llangefni, a oedd eisoes wedi’i sefydlu ym 1914. Sefydlodd Robin a’i fab, Robert, y busnes R. Hughes a’i Fab, Ymgymerwyr Angladdau yng ngweithdy Mona yn 2000, a oedd yn lleoliad Ymgymerwyr Angladdau ers 1968 ac yna ychwanegwyd Eilian House fel swyddfa.

R a J Hughes a’i Fab

Fis Chwefror 2020, ffurfiwyd partneriaeth newydd rhwng John Hughes a’i Fab, Amlwch a R. Hughes a’i Fab, Llangefni. Mae Arwel yn cynnig cymorth a chefnogaeth gyda threfniadau angladdau ac mae Robin a Robert yn parhau i gyflawni gwaith cerrig beddi’r busnes.

Gyda’i gilydd, teimlant yn gryf dros gynnal y safonau uchel, y proffesiynoldeb a’r cyfeillgarwch teuluol a ddisgwylir gan fusnes o’r fath.