Diwrnod y Cnebrwn
Claddedigaeth
I’r teulu, mae diwrnod yr angladd yn un o bryder, galar a llawer o deimladau ac emosiynau eraill. Rydym yn deall hyn ac rydym wrth law i’ch cynorthwyo drwy gydol y diwrnod.
Yn gyffredinol, byddwn yn ymuno a’r teulu mewn lleoliad neu gyfeiriad arbennig. Fel hyn, gallwn adael mewn gorymdaith i’r man addoli lle bydd y gwasanaeth yn cael ei gynnal.
Fel arfer, bydd gwasanaeth crefyddol yn parhau tua 35 i 40 munud, oni bai bod moliannau, cerddoriaeth neu weddïau ychwanegol wedi’u trefnu. Ar ddiwedd y gwasanaeth, bydd y trefnwr angladdau yn cerdded at yr arch a gofyn i’r cludwyr sefyll wrth ei hymyl (4 i 6 cludwr fel arfer). Yna, bydd yr arch yn cael ei harwain o’r adeilad a bydd y trefnwr angladdau yn hebrwng y teulu tu ôl iddi. Bydd yr arch yn cael ei chodi i’r hers a bydd y teulu yn cael eu harwain at y ceir cyn gadael am y fynwent.
Boed i’r fynwent yn agos neu rhai milltiroedd i ffwrdd, ymdrechwn i gadw pawb gyda’i gilydd mewn gorymdaith urddasol a threfnus. Rydym yn teithio ar gyflymdra o 10-15 mya mewn tref a 40-45 mya mewn mannau eraill. Gallwch weld mwy o fanylion yn y rhan ‘Gorymdaith yr Angladd’.
Ar ôl cyrraedd y fynwent, byddwn yn gofyn i’r cludwyr symud yr arch at y bedd, fel rheol byddwn yn defnyddio troli neu elor i wneud hyn. Gofynnwn i’r teulu ddilyn yr arch at ymyl y bedd. Ar ôl i’r arch gael ei gosod ar y bedd, bydd y cludwyr yn codi’r cortynnau cyn disgwyl am gyfarwyddiadau pellach gan y gweinidog i ostwng yr arch i’r bedd. Bydd y gweinidog yn cynnal y gwasanaeth claddu priodol. Yn y rhan fwyaf o wasanaethau, bydd pridd yn cael ei daflu ar yr arch. Os yw hyn yn rhan o’r gwasanaeth claddu, y trefnwr angladdau fydd yn gwneud hyn fel arfer, ond mae posib i aelod o’r teulu wneud hyn hefyd.
Mae’r gwasanaeth claddu yn parhau am 15-20 munud fel arfer. Yn aml bydd y teulu neu ffrindiau yn taflu pridd, blodau neu eitemau eraill ar yr arch i gofio am eu hanwylyd neu eu ffrind ar ddiwedd y gwasanaeth.
Dyma ddiwedd yr angladd a gwaith y trefnwr angladdau. Os bydd te galar / gwylnos wedi’i drefnu gallwch adael pan fyddwch yn barod.
Sylwer: Arweiniad cyffredinol yw’r uchod o sut rydym ni’n gweithredu mewn angladd claddu. Mae croeso i chi gysylltu ag Ieuan, Phyllis neu minnau os oes gennych chi unrhyw ymholiad neu os hoffech fanylion ychwanegol.
Amlosgiad
I’r teulu, mae diwrnod yr angladd yn un o bryder, galar a llawer o deimladau ac emosiynau eraill. Rydym yn deall hyn ac rydym wrth law i’ch cynorthwyo drwy gydol y diwrnod.
Yn gyffredinol, byddwn yn ymuno a’r teulu mewn lleoliad neu gyfeiriad arbennig. Fel hyn, gallwn adael mewn gorymdaith i’r man addoli lle bydd y gwasanaeth yn cael ei gynnal.
Fel arfer, bydd gwasanaeth crefyddol yn parhau tua 35 i 40 munud, oni bai bod moliannau, cerddoriaeth neu weddïau ychwanegol wedi’u trefnu. Ar ddiwedd y gwasanaeth, bydd y trefnwr angladdau yn cerdded at yr arch a gofyn i’r cludwyr sefyll wrth ei hymyl (4 i 6 cludwr fel arfer). Yna, bydd yr arch yn cael ei harwain o’r adeilad a bydd y trefnwr angladdau yn hebrwng y teulu tu ôl iddi. Bydd yr arch yn cael ei chodi i’r hers a bydd y teulu yn cael eu harwain at y ceir cyn gadael am y fynwent.
Bydd yr orymdaith i’r Amlosgfa ym Mangor neu ym Mae Colwyn yn cymryd tua 1 awr. Byddwn yn gadael o leiaf 20 munud yn rhydd i ganiatáu am amgylchiadau na ellir eu rhagweld. Ymdrechwn i gadw pawb gyda’i gilydd mewn gorymdaith urddasol a threfnus. Rydym yn teithio ar gyflymdra o 10-15 mya mewn tref a 40-45 mya mewn mannau eraill. Gallwch weld mwy o fanylion yn y rhan ‘Gorymdaith yr Angladd’.
Ar ôl cyrraedd yr amlosgfa, byddwn yn gofyn i’r cludwyr i godi’r arch o’r hers a’i rhoi ar droli neu elor. Yna, gofynnir i’r teulu ddilyn yr arch i mewn i gapel yr amlosgfa a bydd yr arch yn cael ei gosod ar flaen y cataffalc. Bryd hynny, bydd y cludwyr yn dychwelyd at y teulu. Pan fydd pawb yn eistedd bydd y gweinidog yn dechrau’r gwasanaeth. Yn ystod y gwasanaeth, gallwn drefnu unrhyw gerddoriaeth yr hoffai’r teulu ei chwarae gyda staff yr amlosgfa.
Yn amlosgfa Bangor, caniateir 45 munud ar gyfer y gwasanaeth. Yn fras, gellir torri’r amser yma lawr i 5 munud ar gyfer mynediad, 35 munud i’r gwasanaeth a 5 munud i bawb ymadael. Ar ddiwedd y gwasanaeth, byddwn yn symud y blodau i’r ffenestr coffa ac yn arwain y teulu allan o’r amlosgfa. Mae croeso i chi dreulio ychydig funudau gyda’r arch cyn gadael. Dim ond ychydig ddyddiau fydd yr amlosgfa yn cadw’r blodau ond mae croeso i chi fynd a’r blodau efo chi os ydych yn dymuno gwneud hynny.
Sylwer: Yn amlosgfa Bangor, gyda chaniatâd y teulu, mae’r arch yn cael ei gollwng ychydig allan o’r golwg fel rhan o’r gwasanaeth crefyddol. Mae posib i chi ofyn i’r arch beidio â chael ei gollwng gan fod hyn yn peri pryder i rai pobl. Bydd eich gweinidog yn cadarnhau hyn gyda chi. Er nad ein cyfrifoldeb ni yw hyn, rydym yn hapus i drafod hyn gyda’r gweinidog os ydych yn dymuno i ni wneud hynny.
Dyma ddiwedd yr angladd a gwaith y trefnwr angladdau. Os bydd te galar / gwylnos wedi’i drefnu gallwch adael pan fyddwch yn barod.
Sylwer: Arweiniad cyffredinol yw’r uchod o sut rydym ni’n gweithredu mewn angladd. Mae croeso i chi gysylltu ag Ieuan, Phyllis neu minnau os oes gennych chi unrhyw ymholiad neu os hoffech fanylion ychwanegol.


