Blodau

Gallwn drefnu blodau a theyrngedau eraill i chi neu gallwn argymell gwerthwyr/trefnwyr blodau lleol.

Os mai chi sy’n archebu’r blodau, gall y siop flodau ddod â’r blodau i ni cyn yr angladd.  Yna, byddwn yn dod â nhw gyda’r arch yn yr hers i’r man cyfarfod.

Yn dilyn y claddu, bydd ein torrwr beddau yn rhoi’r blodau ar y bedd mewn modd taclus.  Bydd y bedd yn cael ei farcio gyda chroes fechan nes bydd carreg fedd neu gofeb arall yn cael ei gosod.

Yn yr amlosgfa, bydd y blodau yn cael eu cadw yno am gyfnod o wythnos yn unig.  Mae croeso i chi fynd â’r blodau gyda chi os byddwch yn dymuno gwneud hynny.

Blodau Môn

Logo Blodau Môn www.angleseyflowers.com
2 High Street, Llanerch-y-Medd, Ynys Môn, LL71 8EA
Rhif Ffôn: 01248 470751

North Wales Web Design