Beth Ddylech Ddisgwyl
Ar ôl i chi gysylltu â ni, beth bynnag yw’r amgylchiadau, ymgeisiwn i ddod draw i’ch gweld chi cyn gynted ag y bo modd. Yn ystod ein hymweliad cyntaf, byddwn yn gofyn am fanylion y sawl sydd wedi marw ac os mai angladd claddu neu amlosgiad oedd dymuniad yr ymadawedig. Byddwn hefyd yn eich cynghori ar y camau nesaf a’ch arwain drwy’r trefniadau, gam wrth gam.
Yr unig beth nad allwn ni fel y Trefnwr Angladdau ei drefnu i chi yw cofrestru’r farwolaeth. Mae’n rhaid i hyn gael ei wneud gan aelod o’r teulu neu rywun oedd yn bresennol yn ystod y farwolaeth. I’ch helpu chi i gofrestru’r farwolaeth, rydym wedi argraffu oriau agor a chyfeiriadau’r cofrestryddion yn Ynys Môn a Gwynedd.
Fel rhan o’r gwaith trefnu ac i gael dealltwriaeth glir o ofynion yr angladd bydd rhaid i ni ofyn llawer o gwestiynau i chi. Efallai y byddwch chi’n teimlo bod y rhain yn eithaf personol neu’n breifat, ond maen nhw’n berthnasol iawn a byddant yn ein helpu i lunio darlun cyffredinol o’ch gofynion. Gallwn eich sicrhau y byddwn mor sensitif â phosib drwy gydol y broses yma.
Mae gennym lawer o ddyletswyddau, fel cysylltu gyda’r sefydliadau perthnasol, gweinidog, mynwentydd a chrematoriwm ac unrhyw beth arall sydd angen ei drefnu.
Gofalu am eich anwylyd yw’r rhan bwysicaf o’n gwaith ni. Mae hyn yn cynnwys symud y corff i’n Capel Gorffwys, lle byddwn yn paratoi yr ymadawedig ar gyfer yr angladd.
Gall eich anwylyd aros yn ein capel neu gallwn drefnu iddynt gael eu symud adref os mai dyna yw dymuniad y teulu. Eich dewis chi hefyd yw lle byddwn yn cwrdd ar ddiwrnod yr angladd naill ai yn y Capel Gorffwys, y cartref neu’r Eglwys neu Gapel.
Wrth gyrraedd y gwasanaeth, byddwn yn casglu’r teulu a’r cludwyr at ei gilydd ac yn mynd mewn i’r gwasanaeth. Mae’r gwasanaeth i gyd yn nwylo’r gweinidog ac ni fydd gennym lawer o ddyletswyddau yn y rhan yma.
Ar ddiwedd y gwasanaeth, byddwn yn mynd i’r tu blaen a gofyn i’r cludwyr sefyll wrth yr arch yn barod i’w symud allan o’r Capel neu’r Eglwys. Byddwn yn gofyn i’r teulu a ffrindiau agos ddilyn yr arch cyn i ni adael i’r claddedigaeth neu’r amlosgfa.


