Amdanom Ni
Ein Capel
Mae ein capel gorffwys drws nesaf i’r swyddfa ym Mhorth Amlwch. Rydym wedi adnewyddu cryn dipyn ar yr adeilad er mwyn ei rhannu’n ddwy ran, y dderbynfa a Chapel Britannia. Mae’r dderbynfa yn rhoi’r cyfle i’r teulu, ffrind neu gydweithiwr gael amser i ymdawelu cyn mynd i’r capel a gweld eu hanwylyd neu ffrind. Drwy ddefnyddio’r dderbynfa gall pobl fynd mewn i’r capel a chael preifatrwydd a distawrwydd, ar ben eu hunain neu gyda’i gilydd.
Fel y gwelwch o’r llun, mae wedi’i addurno’n chwaethus ac yn cynnwys hen allor a roddwyd i fy Nhad gan yr Eglwys Gatholig ar ôl iddo adnewyddu’r eglwys.
Rydym yn sylweddoli yr hoffech dreulio amser gyda’ch anwylyd, ac mae modd i chi wneud hynny wrth gwrs, ond rydym yn gofyn i chi roi ychydig o rybudd ymlaen llaw i ni.
Dros y blynyddoedd, mae nifer o wasanaethau wedi cael eu cynnal yng Nghapel Britannia. Gallwch gynnal gwasanaeth yma os hoffech wneud hynny. Gallwn agor dau ddrws mynediad y capel ac mae lle i 30 person eistedd ynddo. Mae yno organ ac offer i chwarae cerddoriaeth.


